Coeden yn disgyn ar fws o Ysgol Gyfun Gwynllyw

  • Cyhoeddwyd
CoedenFfynhonnell y llun, han ‏@hanh0wells
Disgrifiad o’r llun,
Disgynnodd y goeden am 15:40

Mae tri disgybl wedi derbyn mân anafiadau ar ôl i goeden ddisgyn ar fws o Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl ddydd Gwener.

Mewn datganiad, dywedodd yr ysgol fod y goeden wedi disgyn ar y bws am 15:40, ond "galwyd y gwasanaethau brys ar unwaith ac mae nifer o blant wedi cael sylw gan barafeddygon fel rhagofal".

Ychwanegodd y datganiad:

"O ganlyniad roedd nifer o fysiau wedi gadael yr ysgol yn hwyr, a rhai disgyblion lleol wedi dal bysiau gwasanaeth.

Mae'r staff cyfan wedi aros, a ni fydd y staff yn gadael nes ein bod yn gwybod bod pob disgybl yn ddiogel."

Yn ôl y Gwasanaeth Tân, cafodd un disgybl ei gludo i'r ysbyty ac fe dderbyniodd dau ddisgybl driniaeth gerllaw safle'r ysgol.

Mae'r disgyblion a gafodd anafiadau bellach wedi eu rhyddhau o ofal meddygon meddai'r ysgol.