Ymchwiliad i gynllun i adeiladu 1,200 o dai yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tir yn LlysfaenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cwmni South Wales Land Developments o Guernsey sydd yn gyfrifol am y cynllun yn ardal Llysfaen, i'r de o'r M4.

Bydd cynlluniau dadleuol i adeiladu 1,200 o gartrefi newydd ar gyrion Caerdydd yn cael eu trafod mewn ymchwiliad cyhoeddus yn hwyrach y flwyddyn hon.

Cafodd y cynllun ar gyfer y datblygiad yn ardal Llysfaen ei gyflwyno 18 mis yn ôl, ac fe fydd swyddogion cynllunio yn trafod y syniad wythnos nesaf, cyn yr ymchwiliad ym mis Mai.

Mae dros 90 o drigolion wedi lleisio eu pryderon am y cynllun, ac mae'r cyngor yn poeni am yr effaith ar draffig a chyfleusterau cymunedol.

Byddai'r tai yn cael eu hadeiladu ar dir fferm sydd eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer adeiladu miloedd o dai newydd.

Ond mae pryder bod y datblygiad yn un tameidiog, sydd heb ei gyflwyno fel rhan o gynllun ehangach i adeiladu 46,000 o gartrefi newydd yn y ddinas erbyn 2026.

Cwmni South Wales Land Developments o Guernsey sydd yn gyfrifol am y cynllun yn ardal Llysfaen, i'r de o'r M4.

Byddai datblygiad Churchlands yn cynnwys parc a chae criced.

Ond mae adroddiad i bwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd yn nodi:

  • pryderon am effaith traffig
  • diffyg tai fforddiadwy
  • methiant i gynnig cyfleusterau cymunedol cynhwysfawr

Dywed Cyngor Cymuned Llysfaen y byddai'r datblygiad yn cael ''effaith sylweddol'' ar y pentref 1,300 o dai, tra bod y pwyllgor cymuned lleol yn dweud y byddai'n ''dyblu poblogaeth Llysfaen''.

Yn ôl y cynghorydd lleol David Walker: ''Mae 'na bryderon mawr am y diffyg darpariaeth ar gyfer traffig.''

Dywedodd AS Canol Caerdydd, y Democrat Rhyddfrydol, Jenny Willott, bod perygl y gallai'r cynllun danseilio ''coridorau gwyrdd'' y ddinas.

Mae'r cyngor wedi bod mewn trafodaethau ''adeiladol'' gyda'r datblygwyr, er nad oedd y trafodaethau hyn yn rhan o'r cais cynllunio.