Gwobrwyo seryddwyr o Brifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Dr Haley Gomez a'r Athro Steve Eales eu gwobrwyo gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol
Mae dau o seryddwyr Prifysgol Caerdydd wedi eu gwobrwyo am eu cyfraniad i faes seryddiaeth gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol.
Derbyniodd yr Athro Eales y Fedal Herschel am ei waith ym maes seryddiaeth ymchwiliadol.
Cafodd Dr Gomez ei gwobrwyo gyda Gwobr Fowler am ei chyfraniad sylweddol i seryddiaeth yn gynnar yn ei gyrfa.