Achub lloches i'r digartref yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lloches The WallichFfynhonnell y llun, Wallich
Disgrifiad o’r llun,
Mae The Wallich, yn cynnig lloches brys, bwyd poeth, cawodydd a chefngoaeth i bobl digartref.

Mae lloches i'r digartref yng Nghaerdydd wedi cael ei hachub yn dilyn ymgyrch i gasglu dros £33,000.

Dywedodd The Wallich ym mis Rhagfyr bod 'na beryg y byddai eu lloches brys yn ardal Glan yr Afon, Caerdydd, yn cau, a hynny oherwydd toriadau i'w cyllideb.

Ond fel rhan o ymgyrch gasglu arian cafodd dros £21,000 ei gasglu dros y we, a mwy na £12,500 drwy weithgareddau eraill, gan sicrhau dyfodol y lloches am flwyddyn arall.

Dywedodd Jan Balsdon, pennaeth partneriaethau cymunedol The Wallich: "Rydym wrth ein boddau y byddan ni'n gallu cadw'r lloches ar agor am y 12 mis nesaf ac y byddwn ni'n gallu cefnogi pobl digartref bregus i ganfod llety sefydlog."

£62,000 y flwyddyn

Mae The Wallich, yn cynnig lloches brys, bwyd poeth, cawodydd a chefnogaeth i bobl digartref.

Mae 12 ystafell wely yn y lloches, agorodd ei drysau am y tro cyntaf yn 1998, ynghyd â phum gweithiwr cynnal sy'n rhoi cymorth i bobl digartref gysylltu â meddyg a symud mewn i lety parhaol.

Bu'n rhaid i The Wallich gasglu'r arian wedi iddyn nhw gael gwybod ym mis Rhagfyr na fyddan nhw bellach yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.

Roedd yr elusen yn derbyn £62,000 y flwyddyn, ond bydd hynny'n dod i ben ym mis Mawrth.

Daw'r arian i ben fel rhan o doriad o 10.2% i gyllideb Rhaglen Grantiau Cefnogi Pobl (RhGCP) yn 2015/16, sy'n ariannu gwasanaethau o'r fath.

Mae arian y RhGCP yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan Gyngor Caerdydd.