Gwylnos yng Nghaerdydd i goffáu meirwon Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Cafwyd gwylnos o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd i gofio'r bobl fu farw yn ystod yr ymosodiadau ar swyddfa cylchgrawn Charlie Hebdo ac ar archfarchnad kosher ym Mharis.
Daeth tua 1,000 o bobl i'r digwyddiad, ble y cafwyd munud o dawelwch, gyda chanhwyllau'n cael eu cynnau fel arwydd o undod gyda'r rhai cafodd eu lladd a'u hanafu yn Ffrainc.
Fe fynychodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yr wylnos.
Cyn y digwyddiad, dywedodd Mr Jones: "Bydd y digwyddiad ym Mae Caerdydd heno yn gyfle i bobl Cymru dalu teyrnged i'r rheiny gollodd eu bywydau yn yr ymosodiadau erchyll ym Mharis.
"Bydd hefyd yn gyfle i ddangos ein bod yn sefyll mewn undod gyda phobl Ffrainc a phawb sy'n credu mewn sicrhau ein gwerthoedd ac egwyddorion democrataidd sy'n cael eu bygwth gan weithredoedd terfysgol o'r fath."
Charlie Hebdo
Dydd Mercher cafodd 12 o bobl eu lladd gan ddau ddyn arfog.
Cafodd wyth o newyddiadurwyr, ynghyd ag un ymwelydd ac un gofalwr, eu lladd gan y brodyr Cherif a Said Kouachi yn swyddfa cylchgrawn Charlie Hebdo, cyn i ddau blismon gael eu llofruddio ar y stryd tu allan wrth i'r brodyr ffoi.
Cafodd y ddau frawd eu saethu'n farw gan yr heddlu yn dilyn gwarchae mewn warws ym mhentref Dammartin-en-Goele, 22 milltir i'r gogledd o Baris.
Mewn cyfres o ymosodiadau eraill, cafodd plismones ei lladd ddydd Iau, a bu farw pedwar o bobl yn ystod gwarchae mewn archfarchnad kosher ger Porte de Vincennes, yn nwyrain Paris.Cafodd Amedy Coulibaly, oedd yn gyfrifol am y gwarchae yn yr archfarchnad, ei ladd gan yr heddlu wrth iddyn nhw achub 15 o wystlon.
Cafodd Amedy Coulibaly, oedd yn gyfrifol am y gwarchae yn yr archfarchnad, ei ladd gan yr heddlu wrth iddyn nhw achub 15 o wystlon.
.