Rygbi Pro12: Gleision 13-22 Leinster
- Cyhoeddwyd

Aeth Leinster ar y blaen wedi dim ond dau funud, diolch i gais Noel Reid.
Sgoriodd y Gleision eu pwyntiau cyntaf drwy droed Gareth Anscombe, wrth iddo lwyddo gyda dwy gic gosb o fewn ychydig funudau i'w gilydd.
Croesodd Manoa Vosawai am gais i ychwanegu pum pwynt i gyfanswm y Gleision, cyn i Anscombe lwyddo gyda'r trosiad i roi mantais o 13-5 i'r tîm cartref.
Ond wedi 32 munud derbyniodd Jarrad Hoeata gerdyn coch, gan olygu bod y Gleision yn chwarae gweddill y gêm gyda dim ond 14 dyn.
Yn gynnar yn yr ail hanner aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Gleision wrth i Vosawai dderbyn cerdyn melyn a chael ei anfon i'r gell gosb.
Yn ystod y 10 munud hwnnw, sgoriodd Jimmy Gopperth gais i'r ymwelwyr.
O fewn chwe munud roedd Luke McGrath wedi ychwanegu cais arall at gyfanswm Leinster, i'w rhoi ar y blaen am y tro cyntaf, a hynny o 13-17.
Ychydig funudau cyn diwedd y gêm sgoriodd Tadhg Furlong bedwaredd cais yr ymwelwyr, ac erbyn hynny roedd buddugoliaeth Leinster yn gwbl ddiogel.