Stockport 2-2 Wrecsam

Wrecsam Image copyright Huw Evans picture agency

Tlws FA Lloegr

Aeth Stockport ar y blaen yn gynnar yn y gêm, diolch i gôl gan Jack Ryan, wedi dim ond pum munud.

Dyblodd y tîm cartref eu mantais ar ôl 30 munud, wrth i Chris Sharp sgorio.

Wedi cyfnod sylweddol o bwysau gan Wrecsam yn yr ail hanner, llwyddodd Connor Jennings i ganfod cefn y rhwyd wedi 67 munud, gan godi gobeithion y cefnogwyr o ogledd Cymru.

Tri munud yn ddiweddarach roedd Wrecsam wedi sgorio eto, diolch i Louis Moult, gan ddod â phethau'n gyfartal.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal, gan olygu y bydd yn rhaid i'r ddau dîm chwarae yn erbyn ei gilydd eto, a hynny ar y Cae Ras ddydd Mawrth.