Lee yn arwyddo cytundeb deuol
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mae prop y Scarlets Samson Lee wedi arwyddo cytundeb deuol gyda'r rhanbarth ac Undeb Rygbi Cymru.
Ef yw'r seithfed chwaraewr i arwyddo cytundeb deuol.
Y chwech arall yw Sam Warburton, Dan Lydiate, Jake Ball, Tyler Morgan, Hallam Amos a Rhodri Jones.
Mae gan Lee, 22 oed, naw o gapiau rhyngwladol ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Ariannin yn 2013.
O dan delerau'r cytundeb bydd y chwaraewr yn cael ei gyflogi ar y cyd gan yr undeb a'r rhanbarth gyda'r undeb yn talu 60% o'r cytundeb a'r rhanbarth yn talu'r gweddill.
Straeon perthnasol
- 2 Ionawr 2015
- 9 Rhagfyr 2014
- 18 Tachwedd 2014