Dyn yn pledio'n euog i ymosod yn hiliol ar Sais

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dyn 52 oed o Lan Ffestiniog wedi ymddangos gerbron y llys wedi iddo gicio casglwr arian i elusen yn ei ben ôl, gan ddweud "cer yn ôl i Loegr".

Plediodd Mark Lloyd Griffith o Pant Llwyd, Llan Ffestiniog yn euog i gyhuddiad o ymosod yn hiliol ar y casglwr arian ar 10 Medi'r llynedd.

Cafodd ail gyhuddiad o ymosod cyffredin ei dynnu'n ôl gan yr erlyniad.

Dywedodd Tracey Willingham, ar ran yr erlyniad, bod y casglwr arian wedi derbyn cic pan roedd o'n rhan o grŵp o Lerpwl oedd yn casglu arian ar gyfer Gofal Canser Nyrsys Macmillan ger cartref y diffynnydd.

Darllenodd nifer o ddatganiadau gan aelodau eraill o'r grŵp oedd yn dweud i'r diffynnydd weiddi sylwadau hiliol tuag at y casglwr arian, gan ddweud "cer yn ôl i Loegr, tydan ni ddim eisiau ti'n fan hyn" a bod "y rhan fwyaf o'r tai yn yr ardal yn berchen i Foch Saesneg".

Roedd Griffith yn anghytuno â hyn, a dywedodd ei gyfreithiwr bod cymdogion Saesneg ei gleient yn hoff iawn ohono, a bod dau ohonyn nhw wedi eu synnu gan yr honiadau ac wedi ysgrifennu geirda ar ei gyfer, gan ddweud ei fod yn gymydog da.

Derbyniodd Griffith orchymyn cymunedol 12 mis i gwblhau 100 o oriau o waith di-dâl yn y gymuned, ynghyd â gorchymyn i dalu costau o £85 a £50 o iawndal.