AS: Ymddiswyddo fel swyddog heddlu gwirfoddol
- Cyhoeddwyd

Mae David Davies, AS Sir Fynwy, yn dweud iddo dderbyn cais i ymddiswyddo fel swyddog heddlu gwirfoddol gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain, wedi i gôd ymddygiad newydd ddod i rym.
Dywedodd ei bod "hi'n drueni bod y rheolau wedi newid", gan effeithio ar ei rôl rhan amser ef, a'i gyd-wirfoddolwr, Philip Holloborne, AS Kettering.
Yn ôl y Coleg Plismona ni ddylai swyddog heddlu gwirfoddol "fod yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Rydym ni wedi ymroi i ddilyn côd ymddygiad y Coleg Plismona.
"Mae hwnnw'n nodi 'na ddylai swyddogion yr heddlu fod yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth'. Yn anffodus mae hyn yn golygu ein bod ni wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i ofyn i ddau o'n swyddogion gwirfoddol, sy'n gweithio fel ASau, i ymddiswyddo.
"Nid yw'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu ar eu rôl gwerthfawr wrth gadw'r cyhoedd yn ddiogel a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu horiau o wasanaeth di-dâl."
Roedd Mr Davies yn gweithio fel swyddog gwirfoddol tua unwaith bob pythefnos, ond rhoddodd y gorau i'r gwaith pan gafodd y canllawiau newydd eu cyhoeddi llynedd.
Erbyn hyn mae o wedi "derbyn cais i ymddiswyddo".
Roedd wedi bod yn gwirfoddoli am naw mlynedd.