Tywydd yn achosi problemau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r tywydd yn dal i achosi problemau ar y ffyrdd a'r gwyntoedd yn golygu cyfyngiadau cyflymder ar Bont Llansawel yr M4, hen Bont Hafren a Phont Britannia.

Yng Nghonwy mae pont fawr Llanrwst wedi cau oherwydd llifogydd rhwng Llanrwst a Chastell Gwydir.

Fore Llun roedd dros 200 o dai heb gyflenwad ynni yn ne a chanolbarth Cymru.

Dywedodd cwmni Western Power Distribution fod gwyntoedd cryfion wedi amharu ar gyflenwadau ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy a Phowys .

Mae teithiau fferi wedi cael eu canslo ac mae manylion rhybuddion llifogydd ar y wefan hon.