Gyrru'n beryglus: Dyn yn y llys

Llys (llun cyffredinol)
Image caption Roedd yn y llys fore Llun

Mae dyn 22 oed wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Bu farw Xana Doyle, 19 oed, mewn damwain yng Nghasnewydd ddydd Gwener.

Fore Llun roedd Sakhawat Ali yn Llys Ynadon Casnewydd a bydd yn y ddalfa nes iddo ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ar Chwefror 13.

Mae'n wynebu cyhuddiadau eraill, gan gynnwys dwyn cerbyd a gyrru heb yswiriant.