Delweddau anweddus: Rheithgor allan
- Published
image copyrightWales News Service
Mae'r rheithgor yn ystyried dyfarniad yn achos menyw sy'n gwadu saith cyhuddiad yn ymwneud â delweddau anweddus o blant.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod cyn gariad y pidoffeil Ian Watkins, Joanne Mjadzelics, yn ceisio tynnu sylw at ei droseddau ond bod yr awdurdodau yn meddwl ei bod yn aflonyddu ar y canwr roc.
Honnodd y diffynnydd 39 oed o Doncaster ei bod ond wedi cyfnewid delweddau anweddus o blant a chynnal trafodaethau ar-lein am gam-drin gyda Watkins mewn ymgais i'w ddal.
Yn ôl yr amddiffyniad, roedd hi'n gweithredu fel hyn oherwydd methiannau'r heddlu.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Ionawr 2015
- Published
- 6 Ionawr 2015
- Published
- 6 Ionawr 2015