Heddlu yn chwilio am gorff yn Afon Taf
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod y gwasanaethau brys yn archwilio Afon Taf yng Nghaerdydd wedi adroddiadau fod aelod o'r cyhoedd wedi gweld corff yn y dŵr.
Mae hofrennydd yr heddlu a chwch gan y Gwasanaeth Tan yn rhan o'r chwilio.
Ond yn ôl Swyddogion mae tywydd gwael yn ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw chwilio.