Rhybudd tywydd: Eira ar y ffordd?
- Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd melyn mewn grym am eira ledled Cymru, wrth i ragolygon awygrymu y gwelwn ni gawodydd gaeafol ddydd Mawrth.
Yr A475 yn Alltyrodyn/Rhydowen, Ceredigion
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau'r rhybudd ar gyfer eira, cenllysg a rhew i bob awdurdod lleol heblaw am Sir y Fflint.
Gallai rhwng 3cm a 6cm o eira ddisgyn, ac mae disgwyl i rew ffurfio ar lonydd heb eu trin.Mae disgwyl i ardaloedd arfordirol y gorllewin a'r de-orllewin osgoi y rhan fwya' o'r eira.
Fodd bynnag, gallai'r ardaloedd hyn weld cenllysg, mellt a gwyntoedd cryfion.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai rhai mannau o fewn ardal y rhybudd melyn osgoi'r eira'n gyfan gwbl, ond mae disgwyl iddo syrthio'n drwm mewn mannau.
Eira ar y B4329 rhwng Tafarn Newydd aThafarn y Bwlch yng ngogledd sir Benfro
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol