Cau mynwent i godi corff

  • Cyhoeddwyd
Priscilla BerryFfynhonnell y llun, North wales police
Disgrifiad o’r llun,
Does neb wedi gweld Priscilla Berry ers 1978

Mae mynwent yn Nyffryn Conwy ynghau ddydd Mawrth er mwyn datgladdu gweddillion i weld ai corff dynes fu ar goll ers 35 mlynedd sydd wedi ei gladdu yno.

Fe ddiflanodd Priscilla Berry, 39, o'i chartref yn Mochdre yn 1978. Nawr, mae heddlu'n credu bod ei chorff wedi ei ganfod yn y môr yn 1980.

Mae Heddlu'r Gogledd yn gobeithio y bydd datblygiadau mewn technoleg DNA yn eu helpu i adnabod y gweddillion ym Mynwent Llangwstenin.

Mae teulu Mrs Berry wedi eu canfod, ac wedi rhoi eu cefnogaeth.

Cafwyd hyd i'r gweddillion sydd wedi eu claddu yn y fynwent ar arfordir Llandudno yn 1980.

Wedi'r datgladdu, bydd arbenigwyr yn cymharu samplau DNA gyda DNA teulu Mrs Berry.

Fe fydd y fynwent ynghau gydol dydd Mawrth i alluogi i'r datgladdu fynd rhagddo "gydag urddas a phroffesiynoldeb," yn ôl yr heddlu.