BBC Cymru Fyw

'Corff mewn afon': Ail-ddechrau chwilio

Published
image copyrightMatthew Horwood
image captionBu'r awdurdodau yn chwilio yn ardal Heol Penarth nos Lun

Mae'r gwasanaethau brys yng Nghaerdydd wedi ail-ddechrau chwilio am gorff yn Afon Taf wedi i aelod o'r cyhoedd "weld corff yn y dŵr" nos Lun.

Fe gafodd Heddlu'r De eu galw i Bont Heol Penarth yn ardal Grangetown, gan ddweud bod yr ymgyrch chwilio yn heriol oherwydd llif cyflym yr afon.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i roi cymorth, ond fe adawon nhw am 11.20pm wedi iddyn nhw fethu dod o hyd i gorff.

Nawr, mae'r achos yn nwylo'r heddlu, ac mae gan y llu gwch a dau heddwas ar yr afon ers 9.00am fore Mawrth.

Straeon perthnasol

  • Heddlu yn chwilio am gorff yn Afon Taf