Mwy o bobl Cymru yn goroesi canser yn ôl adroddiad
- Cyhoeddwyd

Mae mwy o bobl yn goroesi canser yng Nghymru yn ôl adroddiad newydd ar ofal canser gan y llywodraeth.
Bu gostyngiad o 25% yn nifer y marwolaethau o ganser rhwng 1995 a 2012 ymysg pobl dan 75 oed.
Ond er bod y niferoedd sydd yn goroesi ar gynnydd, mae 'na dŵf hefyd yn nifer y bobl sydd yn derbyn diagnosis o'r clefyd.
Yn ôl y trydydd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar ganser, mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd yn derbyn diagnosis am fod y boblogaeth yn heneiddio.
Rhwng 1995 a 2011, gwelwyd tua 16,400 o achosion newydd o ganser bob blwyddyn. Ond erbyn 2012, cafodd mwy na 18,000 o bobl ddiagnosis o ganser.
Ers 1995, bu gwelliant o 17.5% yn nifer y bobl sy'n dal yn fyw ar ôl derbyn diagnosis o ganser, gyda gwelliant o 20.1% yn nifer y bobl sy'n dal yn fyw bum mlynedd ar ôl cael diagnosis.
Croesawu'r adroddiad
Mae Olwen Jones o Ddinas Mawddwy yn croesawu canfyddiadau adroddiad y llywodraeth. Roedd ganddi ganser y fron dros ddegawd yn ôl, a bu'n rhaid iddi dderbyn triniaeth i godi ei dwy fron yn 2003 a 2004.
Dywedodd: ''Mae unrhyw gam ymlaen yn newyddion da, ac mae'n rhaid i unrhyw un sydd yn dioddef gael agwedd bositif.
''Mae datblygiadau mewn ymchwil yn dod o hyd ac mae'r newyddion yma yn calonogi rhywun. Dwi'n credu y bydd na ateb i lawer o fathau o ganser cyn bo hir.''
Er iddi oroesi canser ei hun, cafodd ei gŵr Wyn Jones ddiagnosis o ganser y prostad ym mis Hydref 2014 ar ôl mynd am brawf gwaed.
Mathau mwyaf cyffredin
Y mathau mwyaf cyffredin o ganser yw canser y fron, canser y coluddyn, canser y prostad a chanser yr ysgyfaint. Y canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yw canser y prostad, a'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod yw canser y fron.
Gall canser ddatblygu ar unrhyw oedran, ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith pobl hŷn.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd y llywodraeth Vaughan Gething: "Mae gofalu am bobl sydd â chanser yn brif flaenoriaeth i GIG Cymru.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir bod y cyfraddau marwolaethau o ganser yn gostwng er bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru bob blwyddyn. Mae triniaethau newydd mwy effeithiol yn golygu y gall llawer mwy o bobl nawr ddisgwyl byw'n hirach ar ôl cael triniaeth am ganser."
Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru:
"Mae GIG Cymru wedi perfformio'n dda iawn dros y 12 mis diwethaf ac wedi gweld cynnydd o ran nifer o'n mesurau perfformiad. Mae hyn yn deyrnged i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau canser, gan gynnwys staff yn y GIG a staff mewn rhannau eraill o'r sectorau cyhoeddus.
"Rhaid inni hefyd gydnabod gwaith amhrisiadwy'r gymuned a'r sector gwirfoddol. Rydyn ni bellach wedi sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer rhagor o ddatblygiadau positif'', meddai.