Angen mwy o feddygon teulu i ysgafnhau baich ysbytai
- Cyhoeddwyd

Byddai cynnyddu niferoedd y meddygon teulu drwy Gymru yn golygu gostyngiad yn nifer y bobl sydd yn mynd i'r adran frys mewn ysbytai am driniaeth, yn ôl cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu.
Bydd Dr Paul Myres yn trafod yr awgrym ar ôl cael ei wahodd i siarad gydag aelodau'r Cynulliad ddydd Mercher.
Mae ysbytai Cymru yn parhau i fethu a chyrraedd targedau amseroedd aros mewn adrannau brys, gydag 83.8% o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr o gyrraedd - y targed ydi 95%.
Mae galw uchel iawn am driniaeth feddygol i gyflyrrau iechyd sydd ddim yn rhai difrifol neu'n peryglu bywydau yn yr adrannau brys hyn yn ôl Dr Myers.
Mae disgwyl iddo ddweud y gallai 15-26.5% o achosion mewn adrannau brys gael eu gweld gan feddygon teulu.
Daw ei alwad yn ystod cyfnod pan fod adrannau brys mewn ysbytai dan bwysau aruthrol.
Mae adroddiadau wedi bod hefyd am griwiau ambiwlans yn ciwio tu allan i ysbytai yn disgwyl i drosglwyddo cleifion i adrannau brys.
Yn ôl Dr Myers: ''Y gaeaf hwn mae'r llywodraeth yn galw ar bobl i osgoi ymweliadau diangen i unedau brys, a mynd at eu meddygon teulu neu at unedau man anafiadau ac rydym yn cefnogi hyn yn llawn''.
"Ond dim ond gyda'r adnoddau cywir y gall meddygon teulu ymdopi gyda'r cynnydd yma mewn galw.
''Mae'r amseroedd aros yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ac rydym yn gwybod fod pobl yn mynd i unedau brys heb angen gan nad ydyn nhw'n gallu cael apwyntiad gyda meddyg teulu ar amser.
"Beth mae'r gwaith ymchwil yn ei ddangos ydi fod canran sylweddol o achosion sydd yn mynd i unedau brys yn rhai y gellid eu trin gan feddygon teulu.''
Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y myfyrwyr meddygol sydd yn dewis gweithio fel meddygon teulu, a phrinder cyffredinol mewn meddygon teulu mewn rhai ardaloedd o Gymru.
Yn ôl Dr Myers: ''Os na fyddwn yn buddsoddi'n sylweddol mewn ehangu niferoedd meddygon teulu drwy Gymru, mae perygl y bydd gwaith meddygon teulu mewn cyflwr difrifol - gan beryglu gallu'r proffesiwn i gynnig gofal ardderchog i gleifion.''
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013