Dim digon o ferched ar fyrddau rheoli
- Published
Mae absenoldeb merched ar bron i hanner byrddau rheoli ardaloedd menter Cymru yn "annerbyniol", yn ôl corff sy'n gwarchod hawliau cydraddoldeb.
Fe gafodd yr ardaloedd eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i roi hwb i economi'r wlad.
Dim ond un ymhob chwe aelod o'r byrddau rheoli ar draws Cymru sy'n ferched.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth yn y sector cyhoeddus a bod cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud.
Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd y llywodraeth eu bod yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth i gwotâu, er mwyn sicrhau bod 40% o benodiadau cyhoeddus yn ferched.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn gwneud cynnydd "calonogol" drwy ddulliau nad ydynt yn ddeddfwriaethol.
Mae 65 o aelodau ar saith o fyrddau ardaloedd menter, ac maent yn cael eu penodi gan y Gweinidog Economi, Edwina Hart.
Mae 54 o'r aelodau yn ddynion ac 11 yn ferched.
Arbenigedd
Yn ôl llefarydd ar ran y Gweinidog, mae'r aelodau yn cael eu penodi "oherwydd eu harbenigedd masnachol neu dechnegol, o drawsdoriad o'r sector preifat a'r sector gyhoeddus, ac o fusnesau bach a mawr".
Mae tri o'r parthau - Glyn Ebwy, Canol Caerdydd a Sain Tathan - heb unrhyw aelodau benywaidd ar eu byrddau.
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: "Rwy'n credu nad yw hyn yn dderbyniol. Mae hefyd yn anarferol iawn.
"Rwy'n credu yn gyffredinol mai ychydig iawn o bobl sydd yn meddwl ei bod yn rhesymol i gael aelodaeth sy'n gyfan gwbl wrywaidd, ac wrth ddod i hynny, aelodaeth sy'n gyfan gwbl wyn."
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar fyrddau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y maes hwn".
Ychwanegon nhw: "Er enghraifft, mae nifer y merched ar gyrff ymgynghorol wedi cynyddu o 32% yn 2012 i 50% yn 2014.
"Mae'r cynnydd yn galonogol, a dyna pam rydym yn parhau i fynd ar drywydd dulliau anneddfwriaethol cyn penderfynu a ddylid mabwysiadu dull mwy ffurfiol yn y dyfodol."
Cwotâu
Ond mae aelod o bwyllgor y Cynulliad sy'n gyfrifol am faterion cydraddoldeb yn dadlau mai gosod cwotâu yw'r unig ffordd i wneud cynnydd sylweddol.
"Rwyf yn gadarn o blaid cwotâu i greu sefyllfa o gydbwysedd", meddai AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas.
"Ar y pwynt yna, gallwch gael gwared ar y cwotâu a gobeithio fod gennym sefyllfa sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru".
Cyhoeddodd Edwina Hart y bwriad i sefydlu pum parth menter ym mis Medi 2011, a chyhoeddodd ei bod yn ychwanegu dau barth yn ychwanegol flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae'r saith parth yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar yr economi a chynnig cymhellion i fusnesau er mwyn creu swyddi a hybu twf.