Tywydd garw yn achosi trafferthion ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd

Mae'r tywydd wedi achosi problemau yng Nghymru ddydd Mercher.
Cafodd tri eu hanafu mewn damwain rhwng dau gerbyd ym Mangor-is-y-Coed, Wrecsam.
Ac mae un arall yn derbyn triniaeth wedi damwain yn Sir Gâr.
Cafodd dau feiciwr driniaeth am fod rhew ar lwybr yr arfordir yn Llanddulas, Conwy.
Fe drodd lori graeanu drosodd oherwydd amodau anodd ar yr B4299 rhwng Trelech a Bryn Iwan nos Fawrth ychydig cyn 20:00. Chafodd neb ei anafu.
Yn Wattstown, Rhondda Cynon Taf, fe darodd bws, oedd yn cario saith o blant ysgol, wal ar ochr y ffordd. Eto chafodd neb ei anafu.
Ffyrdd ar gau
Roedd rhai ysgolion ar gau yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Caerffili a Phowys.
Ym Mhowys, roedd damwain ar yr A483 rhwng Crossgates a Llanbister.
Yn Rhondda Cynon Taf roedd yr A4061, Heol Mynydd y Bwlch rhwng Treorci a Nant-y-moel ar gau.
Bu'n rhaid cau'r A44 i'r ddau gyfeiriad am gyfnod oherwydd eira rhwng yr A4120 (Ponterwyd) a'r A4159 (Cylchfan Gelli Angharad, Capel Dewi) ond cafodd ei hailagor yn ddiweddarach.
Yn Sir Gâr roedd un lôn ar gau oherwydd eira ar yr A40 tua'r dwyrain yn Sanclêr ac ar yr A48 tua'r gorllewin yn Llanddarog.
Yng Nghaerdydd ar un adeg roedd amodau'n wael ar yr A4232 rhwng Lecwydd a Chroes Cyrlwys, gyda dwy ddamwain yn rhwystro'r ffordd tua'r gogledd yn rhannol.
Roedd cyfyngiadau cyflymder ar yr Hen Bont Hafren a Phont Britannia oherwydd y gwynt.
Bysiau oedd yn rhedeg yn lle Trenau Arriva Cymru rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog oherwydd llifogydd.
Trowynt yn Hwlffordd
Roedd trowynt wedi taro 24 o gartrefi, a mellten wedi achosi difrod i ddau gartre', mewn digwyddiadau ar wahan.
Fe darodd y trowynt dai yn Hwlffordd tua 19:00 nos Fawrth, gan rwygo darnau o doeau chwe adeilad, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty yn diodde' o sioc.
Yn y cyfamser, roedd mellt wedi difrodi simneiau ac wedi gadael twll yn nhoeau dau o gartrefi ym Mro Morgannwg.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lôn Windway, Llanbydderi ger Sain Tathan am 04:28.
Bu'n rhaid i ddyn gael cyflenwad o ocsigen wedi i fwg lenwi ei gartre'.
Rhybudd melyn
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn i fod yn barod am eira a rhew mewn rhai ardaloedd ond daeth hyn i ben am hanner dydd.
Eira yn ardal Llanuwchllyn
Mae disgwyl i fand o law trwm symud ar draws y wlad yn ystod dydd Mercher, gan achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Gwennan Evans: "Mae disgwyl cyfnod sychach a chliriach ganol y dydd cyn i wynt a glaw ledu tua'r gogledd-ddwyrain ddiwedd y pnawn, heno a hefyd dros nos.
"Ac mae rhybudd melyn am law o dri o'r gloch tan naw o'r gloch bore 'fory a rhybudd melyn am wyntoedd cryfion o dri o'r gloch heddi tan hanner nos, nos 'fory."
Am y tywydd manwl yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2015