Galw am atgofion o'r Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Y Rhyl yn 1967Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cymerwyd y llun yma o brom, gerddi a phwll y Rhyl yn 1967

Mae prosiect wedi ei lansio i gasglu atgofion a lluniau o'r Rhyl rhwng yr 1940au a diwedd yr 1960au, gyda'r bwriad o greu ffilm.

Mae TAPE, sy'n elusen ar gyfer celfyddydau cymunedol a'r cyfryngau, yn gweithio ar y prosiect ar y cyd â grŵp Cymunedau'n Gyntaf Y Rhyl ac mae wedi ei ariannu gan elusen o'r enw'r Camden Trust.

Dywedodd Neil Dunsire, o TAPE, mai'r nod yw annog pobl i gyfrannu eu hatgofion neu eu hamser i helpu gyda chynhyrchu'r ffilm.

"Rydym wedi cael ymateb da hyd yn hyn," meddai. "Ac mae mwy o bobl yn dod aton ni drwy'r amser.

"Rydym yn edrych am ffilm archif a hefyd am bobl i gyfrannu cerddoriaeth, falle band lleol neu fand pres.

"Bydd natur y prosiect yn dibynnu ar bwy fydd yn cymryd rhan," dywedodd.

Y gobaith yw y bydd y ffilm yn cael ei dangos yn Y Rhyl am y tro cynta' ddiwedd mis Ebrill, cyn symud ymlaen i'r Mostyn yn Llandudno.

Mae'r cyfarfod nesa' er mwyn hel atogofion a gwirfoddolwyr i'r prosiect ar 15 Ionawr am 16:00 - 18:00, yn Adeilad John Davies ar Ffordd Marsh yn Y Rhyl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol