Triniaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn gwella

Iechyd meddwl
Image caption Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn dweud bod rhagor o waith eto i'w wneud.

Mae'r gallu i fanteisio ar driniaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi gwella yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi dweud bod gwasanaethau iechyd wedi gweld cynnydd o ganlyniad i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ond bod rhagor o waith eto i'w wneud.

Yn ôl y pwyllgor, mae hi'n haws cael asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o ganlyniad i'r mesur, ac mae rhagor yn awr yn gallu cael gwasanaeth iechyd meddwl annibynnol.

Er hyn, mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn dangos bod dryswch o hyd ymhlith cleifion a darparwyr gwasanaethau iechyd am y drefn hunangyfeirio ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu am effaith y mesur ar wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, ac maen nhw wedi amlinellu hyn mewn deg o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

'Gwella'n arw'

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, David Rees AC:

"Mae gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi gwella'n arw ers i'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ddod i rym yn 2012.

"Fodd bynnag, mae'r galw am wasanaethau iechyd meddwl yn uchel, ac os yw amcanion y mesur i'w cyflawni'n llawn, mae rhagor o waith i'w wneud i sicrhau bod digon o wasanaethau ar gael.

"Yn ogystal â helpu i barhau â'r cynnydd a wnaed i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, bydd ein hargymhellion yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r modd y cyflwynwyd y mesur i ddatblygu a gweithredu rhaglen ddeddfu Llywodraeth Cymru."