Remploy yn lansio cwmni penodol i Gymru

Remploy
Image caption Bydd cwmni Remploy yn lansio Remploy Cymru yn y Cynulliad ddydd Iau.

Mae cwmni blaenllaw sy'n darganfod gwaith i bobl ag anableddau yn lansio cwmni penodol ar gyfer ei ganghennau yng Nghymru.

Bydd cwmni Remploy, darparwr gwasanaethau cyflogaeth arbenigol, yn lansio Remploy Cymru yn y Cynulliad ddydd Iau.

Mae gan Remploy 17 cangen yng Nghymru, yn helpu gydag amryw o wasanaethau, gan gynnwys adeiladu hyder, creu CV a pharatoi am gyfweliad.

Yng Nghymru, mae'r cwmni wedi darganfod gwaith i dros 10,000 o bobl ag anableddau, mewn partneriaeth gyda rhai o gyflogwyr mwyaf y wlad, fel Marks & Spencer, BT, ASDA, y Post Brenhinol, Sainsbury's a'r GIG.

Bydd y lansiad yn cael ei gynnal fore Iau, ac yn cael ei gyflwyno gan yr AC dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood.

Ar draws y DU mae gan Remploy dros 60 cangen, ac yn y bum mlynedd ddiwethaf mae wedi darganfod dros 80,000 o swyddi ar gyfer pobl gydag anableddau corfforol a meddyliol, yn ogystal ag anfanteision eraill.