Taith i Fangladesh i ddau o ddisgyblion Plasmawr

  • Cyhoeddwyd
Emily a George Plasmawr
Disgrifiad o’r llun,
Mae Emily a George yn edrych ymlaen at eu taith i Fangladesh.

Ar ôl ennill gwobr Steve Sinnot, fe fydd dau ddisgybl blwyddyn 10 o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd yn teithio i Fangladesh fis nesaf.

Fel enillwyr, George Watts ac Emily Pemberton yw llysgenhadon ymgyrch Send My Friend to School eleni.

Fe fydd y ddau yn teithio 5,000 milltir i Fangladesh i fwrw golwg ar y gwaith sydd yn cael ei wneud yno i sicrhau bod plant yn cael cyfle i fynd i'r ysgol.

Mae disgwyl iddyn nhw wedyn adrodd yn ôl ar beth maen nhw wedi ei ddysgu, gan drafod gydag athrawon, y cyfryngau ac Aelodau Seneddol.

'Ynni a brwdfrydedd'

Mae gwobr Steve Sinnott yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i ddau berson ifanc sydd wedi ymrwymo i'r ymgyrch o geisio sicrhau bod pob plentyn yn y byd yn cael addysg.

Ar ôl gwneud cyflwyniad i banel, dywedodd y beirniaid fod gan George ac Emily "ynni, brwdfrydedd a gwir ddealltwriaeth o'r angen am fyd teg a chyfiawn, ble mae addysg safonol ar gael i bawb."

Fe gafodd targed ei greu ar dröad y mileniwm, i geisio sicrhau bod pob plentyn yn y byd â chyfle i gael addysg gynradd safonol erbyn eleni. Ond eto, 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae 58 miliwn o blant yn y byd yn parhau i golli allan ar y cyfle i fynd i'r ysgol.

Ers misoedd, mae George ac Emily wedi bod yn gweithio gyda'u hathrawes Elin Boyle ar yr ymgyrch Send My Friend to School.

'Bach o her'

Dywedodd George: "Mi oeddwn i eisiau ei wneud e, mi oeddo'n rhywbeth diddorol a gwahanol i wneud. Roedd o'n lot o aros o gwmpas ar ôl ysgol tan tua pump o'r gloch. Ond pan chi'n dechrau gwneud rhywbeth, chi eisiau gorffen e ac ei wneud e.

"Dw i'n meddwl ei fod o'n beth da i roi bach o her i'n gilydd, i weld os oedden ni'n gallu gwneud rhywbeth fel yna."

Ar eu taith i Fangladesh, fe fyddan nhw'n ymweld â'r brifddinas, Dhaka yn ogystal â threulio amser yn yr ardal wledig, Nilphamari.

Mae disgwyl iddyn nhw gyfarfod â phlant, teuluoedd, ymgyrchwyr a gwleidyddion.

Dywedodd Emily: "Mae'n deimlad neis. Cael y cyfle i geisio newid bywydau plant sydd mewn angen ac yn agored i niwed yng ngwledydd y trydydd byd."