Manylion ymchwiliad i Heddlu'r Gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi amlinellu manylion eu hymchwiliad i Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â honiadau i'r llu fethu ag ymateb yn briodol i wybodaeth ddaeth i law yn ymwneud â delweddau anweddus o blant, a hynny rhwng Tachwedd 2013 a Hydref 2014.
Ym mis Tachwedd 2014 cyhoeddodd y Comisiwn eu bod yn ymchwilio i Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd ag ymchwilio i honiadau tebyg yn ymwneud â heddluoedd Gogledd Sir Efrog ac Essex.
Roedd y tri llu wedi gofyn i'r Comisiwn gynnal ymchwiliad i'r honiadau.
Bydd y Comisiwn yn ystyried sut wnaeth y lluoedd dan sylw ddelio gyda gwybodaeth a gafodd ei roi iddyn nhw gan CEOP (Canolfan Warchod Ecsploetio a Cham-drin Plant).
Roedd prif gwnstabliaid Cymru a Lloegr wedi cael cais i ystyried a ddylai eu lluoedd gael eu cyfeirio ar Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ym mis Hydref 2014, oherwydd y modd y gwnaethon nhw ddelio gyda deunydd yn ymwneud â cham-drin plant, a ddaeth i law drwy Brosiect Spade - cynllun gan heddlu Toronto yng Nghanada - a anfonwyd at yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA) drwy law CEOP.
Daeth i'r amlwg fod yr NCA wedi cadw'r wybodaeth am 16 mis heb weithredu.
'Pryder mawr'
Bydd ymchwiliad yr IPCC yn ystyried:
- a oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi dilyn canllawiau'r llu neu ganllawiau cenedlaethol wrth iddyn nhw ymdrin â data;
- a oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi gweithredu'n ddigonol yn unol â'r wybodaeth gan ddiweddaru'r NCA/ CEOP ynglŷn â'u gweithredoedd;
- pwy o fewn Heddlu Gogledd Cymru oedd â pherchenogaeth o'r wybodaeth a phwy oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r person hwnnw;
- pa gamau mae Heddlu Gogledd Cymru wedi eu cymryd i atal y mater rhag codi eto.
Dywedodd Comisiynydd yr IPCC yng Nghymru, Jan Williams: "Mae unrhyw fethiant wrth ymdrin â gwybodaeth yn ymwneud â diogelu plant yn destun pryder mawr i'r gymuned, a bydd yr IPCC yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod a fu unrhyw fethiant yn y modd y gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymdrin â'r wybodaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2014