Newid llwybr ras Nos Galan i gynyddu nifer y rhedwyr
- Cyhoeddwyd

Gallai llwybr ras enwog Nos Galan, sydd yn cael ei chynnal ger Aberpennar bob blwyddyn, gael ei newid er mwyn galluogi mwy o redwyr i gymryd rhan.
Caiff y ras ei chynnal i goffau'r rhedwr lleol enwog, Guto Nyth Bran, ac fe gafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 1958.
Bu'n rhaid gwrthod caniatad i rai rhedwyr gymryd rhan yn ras 2014 gan fod 1,500 o bobl wedi cofrestru i redeg. Dywedodd Ann Crimmings, cadeirydd pwyllgor ras Nos Calan, fod llwybr y ras yn cael ei adolygu.
Mae'r pwyllgor yn bwriadu cyfarfod Athletau Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru yn yr wythnosau nesaf i drafod y posibilrwydd o newid rhan o lwybr y ras i alluogi mwy o bobl i gymryd rhan yn 2015.
Mae'r ras flynyddol yn cychwyn o fedd Guto Nyth Bran. Gallai redeg mor gyflym fel ei fod yn dal adar yn ei ddwylo wrth iddyn nhw hedfan, yn ôl yr hanes.
Wedi iddo redeg ras o Gasnewydd i Fedwas, bu farw Guto ym mreichiau ei gariad, Sian o'r Siop, yn 1737.
Mae Guto wedi cael ei gladdu ger Aberpennar.
Pob blwyddyn, mae rhedwr dirgel yn rhedeg y ras - yn y gorffennol mae Alun Wyn Jones, Ian Evans, Shane Williams, Lynford Christie, Dai Greene, Christian Malcolm a llawer o enwogion eraill wedi cymryd rhan.
Y chwaraewr rygbi Adam Jones oedd y rhedwr dirgel yn 2014.