Dedfryd oes i lofrudd Michael Emmett

  • Cyhoeddwyd
Connor DoughtonFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae llanc 16 oed wedi ei ddedfrydu i o leiaf 15 blynedd dan glo wedi iddo lofruddio Michael Lee Emmett mewn ymosodiad â chyllell fis Awst.

Ymosododd Connor Doughton ar Mr Emmett wedi iddo ef a dyn arall, oedd yn ceisio sicrhau nad oedd yn mynd fewn i drwbl, gerdded gydag ef i dŷ ei rieni yn Y Coed Duon.

Cafodd Michael Emmett, 29 oed, ei drwyanu yn ei iau yn ystod yr ymosodiad.

Roedd Doughton wedi cyfaddef cyhuddiad o lofruddiaeth yn Llys y Goron Caerdydd a derbyniodd ddedfryd o gael ei garcharu am oes.

Cododd y barnwr Mrs Ustus Nicola Davies y gwaharddiad ar enwi'r llanc wrth ei ddedfrydu.

Bydd Doughton yn treulio o leiaf 15 blynedd dan glo.