BBC Cymru Fyw

Cyhuddo dau o esgeuluso dynes oedrannus

Published
image copyrightGoogle Street View
Mae dau o bobl wedi eu cyhuddo o esgeuluso dynes oedrannus a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r cyhuddiadau'n gysylltiedig â digwyddiad honedig yn ymwneud â dynes 88 oed yng nghartref preswyl Zoar yn Nhonypandy, ym mis Mawrth 2014.
Bydd y ddau'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Pontypridd ym mis Chwefror.
Ni fydd unrhyw weithredu pellach yn erbyn dyn, 35 oed, a dynes, 72 oed, gafodd eu holi'n wreiddiol ynglŷn â'r digwyddiad.