Cymraes wedi marw ym Mwlgaria
- Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn Nefyn ddydd Sadwrn i gofio am ddynes fu farw ym Mwlgaria yn gynharach yn y mis.
Bu farw Mary Caroline Owens, 37 oed, oedd yn wreiddiol o Forfa Nefyn, gyda'i phartner Vez Petrova mewn damwain car ar 7 Ionawr ger Svishtov yng ngogledd y wlad.
Roedd angladd y ddau ym Mwlgaria yn gynharach yr wythnos hon. Roedd y ddau yn byw yn Llundain ond roedd Mr Petrova yn gweithio yn y wlad am gyfnod o 3 mis.
Yn dilyn y ddamwain roedd yn rhaid i gyfaill y ddau oedd yn y car gerdded am hanner awr i alw am help, ond erbyn dychwelyd i leoliad y ddamwain roedd y ddau wedi marw.
'Troi drosodd'
Dywedodd Tom Owens, brawd Mary Owens: "Mi ddigwyddodd y ddamwain rhwng 02:00 a 03:00 y bore. Roedden nhw yn dreifio nôl ar ôl bod yn gweld ffrind.
''Roedd hi'n -14 gradd ar y pryd. Fe ddaeth eu Range Rover oddi ar y lôn a mi drodd y car drosodd. Ei phartner Vez oedd yn gyrru.
''Roedd Mary a Vez i fod i ddod nôl i'r wlad hon yr wythnos yma. Roedd y ddau yn byw yn Llundain ond roedd Vez, oedd yn hanu o Fwlgaria, wedi mynd yno i weithio am dri mis. Fe aeth Mary, oedd yn gwneud gwaith ysgrifenyddol, efo fo''.