Ymosodiad Tesco: Dyn gerbron y llys
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 25 oed wedi ei gadw yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio wedi ymosodiad yn siop Tesco yn Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Ymddangosodd Zachary Peter Davies o'r Wyddgrug, gerbron Llys Ynadon Wrecsam ddydd Gwener.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar ddydd Llun, 19 Ionawr, ni chafwyd cais am fechniaeth.
Dioddefodd Sarandev Brahanbra, 24 oed o Sir Efrog, anafiadau all newid ei fywyd yn ystod yr ymosodiad.