William a Ffion Hague yn rhoi rhodd i'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, William Hague, a'i wraig Ffion wedi rhoi rhodd i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn, ac wedi prynu tŷ gwerth £2.5 miliwn ger safle'r ŵyl flwyddyn yma.
Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015, Beryl Vaughan, fod yr eisteddfod wedi derbyn rhodd hael iawn gan y cwpl, ac y bydd Ffion yn cyfrannu at weithgareddau'r Ŵyl yn ogystal.
"Derbyniais i rodd hael iawn gan y ddau ddoe," dywedodd hi.
"Rwy'n sicr y bydden nhw'n gefnogol iawn ac rwy'n sicr y bydden nhw'n gaffaeliad mawr ar gyfer yr ardal."
Fe fydd y cwpl yn symud i Neuadd Cyfronnydd ger y Trallwng pan fydd Mr Hague yn ymbellhau o wleidyddiaeth wedi'r etholiad cyffredinol ym mis Mai.
'Wedi cynhyrfu'
Dywedodd Mr Hague wrth bapur newydd y County Times: "Rydw i a Ffion yn edrych ymlaen at gael cartref yng Nghymru am y tro cyntaf, a byw mewn man mor brydferth."
Mae gan eu tŷ newydd 10 ystafell wely, 10 ystafell ymolchi a 12.7 acer o dir.
Daeth Mr Hague i adnabod ei wraig pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y 90au, pan roedd hi yn gweithio yn ei swyddfa.
"Mae Ffion wedi cynhyrfu oherwydd y bydden ni'n byw mor agos at Meifod, ble mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei gynnal flwyddyn yma," dywedodd Mr Hague.
"Mae'r ddau ohonom ni yn edrych ymlaen."