Carcharu dau frawd am oes am lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Stephen LambertFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Stephen Lambert, 36 oed, ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yng Nghlôs Twmbarlwm, Rhisga.

Mae dau hanner brawd wedi eu carcharu am oes wedi iddyn nhw ladd eu cymydog mewn ffrae feddw.

Cafodd Stephen Lambert, 36 oed, ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yng Nghlôs Twmbarlwm, Rhisga, wedi i'w gyn-ffrindiau droi yn ei erbyn.

Trywanodd Gavin Harris, 39 oed, a Raymond Ball, 33 oed, Mr Lambert sawl gwaith wrth iddo orwedd ar y soffa.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y tri dyn wedi bod yn yfed a gwrando ar gerddoriaeth gyda'i gilydd cyn yr ymosodiad.

Roedd y tri wedi ffraeo, a gofynnodd Mr Lambert i'r ddau hanner brawd adael ei fflat. Dyna pryd yr ymosododd Harris a Ball ar Mr Lambert.

Cafodd Harris ei garcharu am 21 blynedd ac wyth mis, a chafodd Ball ei garcharu am 22 blynedd a chwe mis.