Ymchwiliad llofruddiaeth: Canfod corff

Published
image copyrightHeddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr
image captionCafodd Sameena Imam ei gweld ddiwethaf tu allan i'w gwaith yn Coventry

Mae'r heddlu fu'n ymchwilio i ddiflaniad menyw 34 oed o Gaerdydd wedi dod o hyd i gorff.

Bu'r heddlu yng Nghaerlŷr yn ymchwilio i lofruddiaeth honedig Sameena Imam, a gafodd ei gweld am y tro diwethaf yn Coventry ar noswyl Nadolig.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r West Midlands nad yw'r corff, gafodd ei ddarganfod mewn rhandir yng Nghaerlŷr, wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ond mae teulu Ms Imam wedi cael gwybod am y datblygiad.

Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal maes o law.

Ddydd Mawrth fe ymddangosodd dau ddyn yn Llys y Goron Birmingham i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Fe gawson nhw'u cadw yn y ddalfa tan fis Ebrill.

Straeon perthnasol