BBC Cymru Fyw

Cynlluniau i wella ffyrdd i borthladd Caergybi

Published
image copyrightGeogrpah/Ian Capper
image captionCafodd cynlluniau i wella ffyrdd sy'n arwian i'r porthladd eu cyflwyno gyntaf yn 2009
Mae Llywodraeth Cymru i ystyried gwella cysylltiadau ffyrdd o borthladd Caergybi i'r A55 ar Ynys Môn.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Trafnidiaeth Cymru, Edwina Hart, y bydd y llywodraeth yn edrych ar welliannau posib fel rhan o'r cynllun drafft ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Mae cais wedi ei wneud yn galw ar y llywodraeth i wella safon ffyrdd sy'n ymuno a'r ffordd ddeuol, a hynny er mwyn lleihau'r risg o ddamweiniau.
Fe fydd yr arolwg yn cynnwys rheolwyr Porthladd Caergybi, Cyngor Ynys Môn, Network Rail a Stena Lines.