Cofio dioddefwyr yr holocaust
- Published
image copyrightCyngor Bro Morgannwg
Fe fydd dioddefwyr yr holocaust yn cael eu cofio mewn arddangosfa o gelf a barddoniaeth sydd wedi ei greu gan blant yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fe fydd arddangosfa Cadw'r Cof yn Fyw, yn cael eu cynnal yn galeri Celf Canolog, Y Barri, Bro Morgannwg.
Mae'r achlysur yn cofnodi 70 mlynedd ers i filwyr y gynghrair gyrraedd Auschwitz-Birkenau, ac 20 mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica, Bosnia.
Bydd pila pala gwyn, cynnyrch plant lleol, yn addurno'r arddangosfa fydd ar agor i'r cyhoedd tan 21 Chwefror.
image copyrightCyngor Bro Morgannwg