Amseroedd aros unedau brys yn effeithio ar yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Adran argyfwng

Mae amseroedd aros mewn unedau brys ysbytai yn cael effaith sylweddol ar waith yr heddlu mewn rhai ardaloedd yn ôl un Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Dywedodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, fod swyddogion yr heddlu yn cludo pobl i ysbytai pan nad oedd ambiwlansys ar gael.

Gwnaeth Mr Salmon ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi ffigyrau amseroedd aros unedau brys ysbytai, oedd yn dangos fod y gwasanaeth iechyd wedi methu eu targed ar gyfer yr amser mae pobl yn gorfod disgwyl i gael triniaeth mewn wardiau brys unwaith eto.

Y targed yw bod 95% o gleifion yn cael eu trin o fewn pedair awr, ond y ffigwr ar gyfer mis Rhagfyr oedd 81%.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ysbytai yn gweld nifer fawr o gleifion ar hyn o bryd.

Yn ôl Christopher Salmon, roedd swyddogion yr heddlu yn cludo cleifion i ysbytai yn broblem ers tro, ac roedd wedi ''gwaethygu'n sylweddol''.

''Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu ein bod wedi cael dwywaith cymaint o achosion y Rhagfyr yma'', meddai.

"Mae hyn yn golygu mwy o swyddogion yr heddlu yn aros mewn unedau brys, swyddogion yn cynnal asesiadau meddygol sydd tu hwnt i'w arbennigedd, a swyddogion yn gadael eu dyletswyddau er mwyn cludo cleifion i ysbytai.''

Dywedodd Tracy Myhill, prif weithredwraig Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod y sefyllfa yn cael effaith ar ambiwlansys, gyda gormod ohonyn nhw yn aros tu allan i ysbytai.

Y ffigyrau amseroedd aros yw'r rhai gwaethaf ers 2009, pan gafodd y ffigyrau eu casglu am y tro cyntaf yn eu dull presenol.

Aeth cyfanswm o 76,889 o bobl i adrannau brys ysbytai Cymru ym mis Rhagfyr, o gymharu gyda 75,049 ym mis Rhagfyr 2014.

Yr uned frys gyda'r ffigyrau gorau oedd uned frys Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, ac roedd y ffigyrau isaf (65.5%) yn Ysbyty Maelor Wrecsam.