Pêl-droed: Norwich 3 - 2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes clwb pêl-droed Caerdydd yn eu gêm oddi cartref yn erbyn Norwich City yn y Bencampwriaeth bnawn Sadwrn.
Chwarter awr wedi dechrau'r gêm fe sgoriodd y tîm cartref eu gôl gyntaf - Gary Hooper yn penio i gongl uchaf y rhwyd.
Deng munud yn ddiweddarach fe ddaeth ail gôl i Norwich - Kyle Lafferty yn sgorio gyda'i droed dde o ochr chwith y cwrt cosbi.
Ychydig cyn hanner amser cafodd Adam Le Fondre o dîm Caerdydd gerdyn melyn am dacl ddrwg, cyn i Norwich sgorio eto ym munudau olaf yr hanner gyda gôl gan Cameron Jerome.
Llwyddodd Caerdydd i frwydro'n ôl wedi'r egwyl - Alex Revell yn sgorio ei gôl gyntaf i'r Adar Gleision wedi 61 munud. Daeth llygedyn pellach o obaith i dîm Russell Slade wrth i Kadeem Harris rwydo yn fuan wedyn, ond doedd holl ymdrechion Caerdydd ddim yn ddigon yn y diwedd.