Pêl-droed: Abertawe 0 - 5 Chelsea
- Cyhoeddwyd

Cafodd Oscar ddigon o feddiant i ddangos ei allu ar y Liberty bnawn Sadwrn
Doedd Abertawe heb guro Chelsea yn y gynghrair ers eu buddugoliaeth yn 1981, ac roedd talcen caled yn wynebu dynion Gary Monk yn Stadiwm y Liberty ddydd Sadwrn.
Cafodd Abertawe ragflas o'r hyn oedd i ddod yn y munud cyntaf, wrth i Oscar sgorio gôl gyntaf Chelsea, ac aeth pethau o ddrwg i waeth wedi hynny.
Wedi 20 munud fe sgoriodd Diego Costa ail gôl i'r tîm o Lundain, cyn rhwydo am yr eildro chwarter awr yn ddiweddarach.
Sgoriodd Oscar eil ail gôl o'r prynhawn gyda deg munud i fynd cyn hanner amser - ac fe lwyddodd Chelsea i gynyddu'r fantais yn yr ail hanner gyda gôl gan Schürrle. Pnawn i'w anghofio i gefnogwyr yr Elyrch felly.