Pêl-droed: Wrecsam 0 - Telford 4
- Cyhoeddwyd

Cafodd Connor Jennings gerdyn coch ar brynhawn siomedig iawn i Wrecsam
Rhoddodd Telford, sydd ar waelod y Gyngres, sioc i Wrecsam ar y Cae Ras bnawn Sadwrn.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen 2-0 o fewn 10 munud wedi gôl wych gan Sam Smith, a pheniad gan Tony Gray.
Ar ôl i Connor Jennings dderbyn cerdyn coch, aeth tasg anodd Wrecsam yn un enfawr.
Daeth dwy gôl arall i Telford gyda Gray yn rhwydo unwaith eto, a Neill Byrne yn sgorio 20 munud cyn y chwiban olaf.
Bydd y canlyniad trychinebus yn sicr o roi pwysau ar reolwr Wrecsam, Kevin Wilkin, wedi diwrnod mor siomedig i'r cefnogwyr cartref.