Buddugoliaeth i Ddreigiau Casnewydd

Tyler Morgan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tyler Morgan sgoriodd gais cyntaf y Dreigiau

Llwyddodd Dreigiau Casnewydd i sicrhau eu lle yn yr wyth olaf yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth dros y Newcastle Falcons oddi cartref o 40 pwynt i 29.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 35-3 ar yr hanner, diolch i geisiadau gan Tyler Morgan, Andrew Coombs, Hallam Amos a Rynard Landman.

Llwyddodd Juan Pablo Socino, Chris Harris, Will Welch ac Andy Saull i groesi'r llinell gais i'r Falcons yn yr ail hanner, ond daeth ail gais Amos a buddugoliaeth i'r Dreigiau, gan sicrhau pwynt bonws haeddianol hefyd.