Angladd cyn-filwr: Disgwyl cannoedd
- Published
Mae disgwyl y bydd cannoedd o bobl yn mynychu angladd i gyn-aelod o'r Awyrlu fu farw gyda'i holl eiddo mewn bocs esgidiau, heb deulu i'w goffáu.
Gwnaeth Cymdeithas yr RAF apêl am bobl i fynychu gwasanaeth angladd Keith Ingham Nutbrown, 83, fu farw'n ddiweddar yng Nghartref Gofal Treflys yn Llandudno.
Dywed y gymdeithas ei bod wedi derbyn ''ymateb anhygoel'', gyda 20,000 o bobl yn darllen eu hapêl ar y we.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ddydd Mawrth yn Amlosgfa Caer.
Dywedodd Emma Reed, llefarydd ar ran Cymdeithas yr RAF: ''Mae ymateb anhygoel wedi bod i'n apêl am bobl i fynychu'r gwasanaeth''.
'Eiddo mewn bocs esgidiau'
''Rydym wedi derbyn galwadau o bob cwr o Brydain ac mae wedi cael ymateb enfawr ar Twitter a Facebook.
''Pan rydym wedi apelio yn y gorffenol mae cannoedd wedi dod i'r angladdau ac nid ydw i'n rhagweld y bydd hwn yn wahanol.
"Mae'n braf i bobl wneud ymdrech i dalu teyrnged i rywun nad oedden nhw yn ei adnabod.
''Yn anffodus nid oes gennym ni lun ohono gan iddo adael ei holl eiddo mewn bocs esgidiau.''