Athletwyr o Gymru yn rhydd i redeg eto wedi gwaharddiad

  • Cyhoeddwyd
Rhys WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Rhys Williams oedd i fod yn gapten ar dîm Cymru yn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014

Mae dau o athletwyr Cymru oedd wedi derbyn gwaharddiadau ar ôl methu profion cyffuriau cyn Gemau'r Gymanwlad y llynedd yn rhydd i ail-gydio yn eu gyrfaoedd.

Cafodd Rhys Williams 30, waharddiad o bedwar mis, a Gareth Warburton, 31, waharddiad am chwe mis.

Ddydd Sul roedd adroddiad yn y Sunday Times yn dweud bod cymdeithas UK Anti-Doping (UKAD) yn cydnabod nad oedd y ddau wedi cymryd y sylweddau oedd wedi eu gwahardd yn fwriadol.

Mae'r gymdeithas wedi gwrthod gwneud sylw.

Mewn datganiad, dywedodd Gareth Warburton: ''Mae Cymdeithas Gwrthgyffuriau Prydain (UKAD) â Phanel Cenedlaethol Gwrthgyffuriau (NADP) yn cytuno nad oedd unrhyw fwriad gennyf i dwyllo, ac na allwn, yn rhesymol fod wedi gwybod fod y ddiod a yfais yn cynnwys sylweddau gwaharddedig.

'Dioddefwr anlwcus'

''Yn anffodus, yr wyf wedi bod yn ddioddefwr anlwcus o amlyncu sylwedd halogedig, ond rwyf yn cymryd cyfrifoldeb llawn am unrhyw sylweddau a geir yn fy system.

''Fel athletwr proffesiynol rwyf yn ymrwymedig i hyrwyddo, a chadw chwaraeon yn lân a byddaf yn mynd ati i gyd-weithio gyda chyrff cenedlaethol i addysgu ymhellach a rhannu'r hyn yr wyf wedi ei ddysgu o'r profiad.

''Yn ddealladwy, mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn hynod anodd i mi ac i'r rhai agosaf ataf ac felly hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i fy nheulu, ffrindiau a chyd-athletwyr am eu cefnogaeth barhaus''.

Datganiad Rhys Williams

Dywedodd Rhys Williams mewn datganiad ar ei wefan ddydd Sul: ''Rwyf yn derbyn fod y cyfrifoldeb am yr hyn yr ydwyf yn ei gymryd yn gorwedd gyda mi ac rwyf yn derbyn y gwaharddiad pedwar mis. Rwyf yn parhau yn ymroddedig i athletau di-gyffur gymaint ag erioed.''

''Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i mi a fy nheulu. Mae hon wedi bod yn sefyllfa ofnadwy i fod ynddi ac roedd colli'r cyfle i gynrychioli Cymru yn Gemau'r Gymanwlad yn boenus dros ben.

"Rwy'n gobeithio y gallaf achub elfen bositif o'r sefyllfa anodd yma trwy weithio gydag athletwyr ifanc i'w haddysgu i fod yn wrth-gyffuriau, ac am fy mhrofiad personol.''

Labordy annibynnol

Dywed erthygl y Sunday Times fod UKAD wedi derbyn dadl yr athletwyr eu bod wedi defnyddio diod oedd wedi ei heintio yn ddiarwybod iddyn nhw.

Yn ôl yr erthygl, cafodd y ddiod dan sylw, Mountain Fuel Xtreme Energy, ei anfon i labordy annibynnol, LGC, ac fe honnir fod y labordy wedi cadarnhau fod cyffuriau oedd wedi eu gwahardd yn bresenol yn y ddiod.

Dywedodd Darren Foote, prif weithredwr Mountain Fuel wrth BBC Cymru nad oedd wedi gweld copi o adroddiad UKAD, ond roedd wedi clywed fod y ddiod wedi ei heintio yn ddamweiniol ac roedd yn bendant nad oedd ei gynnyrch ar fai.

''Nid ydw i am roi pethau iddyn nhw sydd yn mynd i gynnwys anabolic steroids'', meddai. ''Fe fydde nhw wedi cael eu gwahardd am oes petai nhw wedi bod yn cymryd steroids.''

''Dwi' ddim ond yn falch eu bod yn ôl yn rhedeg. Fe wnes i sefyll ochr yn ochr â nhw yr holl ffordd. Maen nhw wirioneddol yn ddynion da.''

Gwaharddiad ar ben

Gan fod y ddau wedi eu gwahardd ym mis Gorffennaf y llynedd, mae cyfnod eu gwaharddiadau ar ben ac mae'r ddau yn rhydd i redeg unwaith eto.

Mae'r Sunday Times wedi cyhoeddi rhan o'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel datganiad UKAD ar yr achos. Dywed y datganiad:

''Barn UK Anti-Doping ydi y dylai'r panel edrych yn ofalus ar fethiannau Mr Warburton a Mr Williams ond wrth wneud hynny mae angen cydnabod mai achos o sylwedd wedi ei lygru yw hwn.

"Efallai bod Mr Warburton a Mr Williams wedi bod yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd ond maen nhw yn ddioddefwyr. Nid twyllwyr ydyn nhw. Fe wnaethon nhw gamgymeriadau ond maen nhw wedi talu amdanyn nhw yn barod.''

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Gareth Warburton