BBC Cymru Fyw

Dyn mewn esgidiau ymarfer ar Yr Wyddfa

Published
image captionDyma'r ail waith mewn wythnos i gerddwyr ifanc gael eu hachub oddi ar y Wyddfa
Cafodd dyn 19 oed ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau i'w fraich ar ôl iddo ddisgyn wrth gerdded Yr Wyddfa yn gwisgo esgidiau ymarfer.
Dywedodd y tîm achub fod yr esgidiau yn gwbl anaddas o gofio bod eira a rhew ar y mynydd.
Roedd y dyn gyda chriw o gerddwyr pan lithrodd a disgyn tra'n dringo'r mynydd ddydd Sul.
Cyrhaeddodd yr hofrennydd uwchben Llwybr y Moch a chafodd ei hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor am 15:00.
Dyma'r ail dro mewn wythnos i gerddwr ifanc gael ei achub oddi ar Yr Wyddfa.