Camgymeriad: Gohirio achos ymosodiad Tesco
- Cyhoeddwyd

Mae'r achos yn erbyn dyn ar gyhuddiad o geisio llofruddio wedi ymosodiad yn siop Tesco'r Wyddgrug wedi cael ei ohirio am 24 awr yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Cafodd Zach Davies, 25 oed, ei gadw yn y ddalfa.
Bu'n rhaid gohirio'r achos pan ddaeth i'r amlwg bod yr erlyniad a'r amddiffyniad wedi ceisio sicrhau gwasanaeth yr un bargyfreithiwr.
Cafodd Sarandev Bhambra, deintydd 24 oed o Leeds, anafiadau difrifol yn y siop ddydd Mercher.
Wedyn cafodd y diffynnydd o Stryd y Brenin yn y dref ei arestio yn y siop cyn cael ei gyhuddo mewn gorsaf heddlu leol.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn amau cymhelliad hiliol posib.