Gwahardd Adam Jones rhag gyrru am chwe mis
- Cyhoeddwyd

Yn Llys Ynadon Caerdydd mae seren rygbi Cymru Adam Jones wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis wedi iddo gael ei ddal yn goryrru gyda naw phwynt ar ei drwydded yn barod.
Roedd newydd ddod yn ôl o Dde Affrica pan gafodd ei ddal gan gamera cyflymder yn gyrru 36mya mewn ardal 30mya yn ei Mercedes E220.
Dywedodd ei fod ar ei ffordd i'r teiliwr cyn iddo fod yn was priodas un o'i ffrindiau.
Honnodd na ddylai gael ei wahardd oherwydd y buasai yn rhoi straen ar ei wraig a'i rieni pe baen nhw'n gorfod ei yrru i bobman.
Adegau amrywiol
Dywedodd yn y llys: "Rwy'n cael fy ngalw i mewn ar adegau amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau ymarfer.
"Ni fyddwn yn gallu dweud pryd y byddwn i yn cyrraedd adref o'r rhain. Dyw hi ddim yn anarferol cyrraedd adref am un neu ddau y bore."
Eglurodd hefyd y byddai oedi weithiau am oriau gyda phrofion cyffuriau.
Clywodd y llys fod y diffynnydd, sy'n byw ym Merthyr Tudful ac yn chwarae i Glesion Caerdydd, yn gyrru 30,000 milltir y flwyddyn.
Dywedodd yr ynad ei fod yn ddigon cyfoethog i fforddio gyrrwr personol.
Cafodd ddirwy o £100, costau o £60 a thâl ychwanegol o £20.