Corff Sameena Imam yw'r un yng Nghaerlŷr
- Cyhoeddwyd

Cafodd Ms Imam, 34, ei gweld y tu allan i siop Costco yn Coventry am 16:00 Noswyl y Nadolig.
Mae'r heddlu wedi dweud mai corff Sameena Imam, merch o Gaerdydd oedd ar goll, sydd wedi cael ei ddarganfod ar safle yng Nghaerlŷr.
Roedd hi wedi cael ei gweld yn Coventry Noswyl y Nadolig, ac mae dau frawd wedi cael eu cyhuddo o'i llofruddio.
Bydd hi'n cael ei hadnabod yn ffurfiol ddydd Mercher wedi i'r corff gael ei ddarganfod ddydd Gwener.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn disgwyl canlyniadau profion fel rhan o'r post-mortem.
Gallai'r profion gymryd wythnosau.
Mae Roger Cooper, 40 oed o Coventry, a David Cooper, 38 o Gaerlŷr, wedi cael eu cyhuddo o'i llofruddio.
Cafodd Ms Imam, 34 oed, ei gweld y tu allan i siop Costco yn Coventry am 16:00 Noswyl y Nadolig.
Roedd hi'n ymweld â'r siop fel rhan o'i gwaith fel rheolwr marchnata rhanbarthol Costco.