Urdd: Dim maes carafanau yng Nghaerffili
- Cyhoeddwyd

Fel rheol mae'r Urdd yn darparau maes carafanau ger y prif faes
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi datganiad sy'n dweud na fydd yna faes carafanau yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch eleni.
Dywed y mudiad nad oes yna ddigon o dir addas i gynnal maes carafanau ger y prif faes.
Mewn datganiad dywed y mudiad: " Rydym yn sylweddoli fod hynny yn mynd i achosi anghyfleuster i rai mynychwyr, ond mae rhestr o feysydd carafanau preifat yn ardal Caerffili ar gael ar ein gwefan.
"Hoffwn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
"Fe fydd meysydd carafanau yn cael eu cynnig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 a Phen-y-bont ar Ogwr Taf ac Elai 2017."