Cwis yr wythnos Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd

Er gwaethaf pawb a phopeth mae'r cwis yma o hyd! Faint ydych chi'n ei gofio am yr wythnos ddiwethaf: 18 Ionawr - 24 Ionawr?
Dyma gyfle i brocio'r cof.
Mae'r atebion ar waelod y dudalen. Pob lwc!
1. Mae tua 125 o rhain wedi eu dal yn ardal Port Talbot pob dydd ers dydd Llun. Beth?
a) Llygod mawr
b) Gyrrwyr cyflym
c) Cŵn strae
2.Pam gafodd Laurence Hughes o Lanllyfni ei gymharu â photel o win gan yr arbenigwr ffasiwn Gok Wan?
a) Mae e wedi ennill ei le yn rownd derfynol cystadleuaeth i ffermwyr rhywiol
b) Mae e newydd gael ei gyflogi fel bwtler i'r cyflwynydd teledu
c) Mae e wedi llwyddo i gasglu pob potel o Beaujolais Nouveau sydd yn 54 oed, yr un oed â fe ei hun
3. Fe ddefnyddiodd y pêl-droediwr Aaron Ramsey Instagram a Twitter i ofyn am help i enwi beth?
a) Ei gartref
b) Ei drôns lwcus
c) Ei gi
4. Beth sydd wedi arafu Adam Jones?
a) Mae wedi troi ei ffêr wrth arddio
b) Mae wedi cytuno i noddi rasys malwod blynyddol Gwaun Cae Gurwen
c) Mae wedi cael ei wahardd rhag gyrru
5. Bu farw'r awdur Margaret Williams yn ystod yr wythnos, ond beth oedd yn anarferol am un o'r tai roedd hi'n berchen arno?
a) Roedd ar ymyl clogwyn ac ar fin syrthio i'r môr
b) Roedd hanner y tŷ yng Nghymru a'r hanner arall yn Lloegr
c) Y tŷ lleiaf ym Mhrydain oedd e
6. Pam fydd arwyr a bodau arallfydol yn ymweld â Wrecsam ddiwedd Ebrill?
a) Ar gyfer cynhadledd Ewrop NASA
b) Ar gyfer cynhadledd Comic Con Cymru
c) Ar gyfer cyfarfod diweddaraf Pwyllgor Bilderberg
7. Mae warden traffig yng Nghaerfyrddin wedi cael cerydd am roi tocyn parcio ar beth?
a) Hers
b) Dyn eira
c) Bin Sbwriel
8. Pa ddarlledwraig gafodd gyngor unwaith i liwio ei gwallt yn olau er mwyn cael mwy o waith?
a) Angharad Mair
b) Beti George
c) Jenny Ogwen
9. Beth sydd yn arbennig am y seren o Sir Gaerfyrddin fydd yn ymddangos yn ffilm newydd Disney, Into the Woods?
a) Mae hi'n perthyn i Walt Disney
b) Mae ganddi bedair stumog
c) Mae ganddi hi alergedd i goed
Wel, sut hwyl gawsoch chi? Dyma'r atebion:
3. c) Ei gi
Mi gewch chi ragor o gwestiynau i ddeffro'r hen gelloedd bach llwyd 'na yr wythnos nesa. Felly cofiwch ddarllen Cymru Fyw yn drylwyr!
Straeon perthnasol
- 18 Ionawr 2015