Darllen amdani!

  • Cyhoeddwyd
Bethan Gwanas

Yr awdures Bethan Gwanas oedd 'Gwestai Penblwydd' Rhaglen Dewi Llwyd, BBC Radio Cymru ar 18 Ionawr.

Dywedodd Bethan ei bod hi wedi mynd ati hi i ddechrau sgwennu er mwyn annog pobl i ddarllen llyfrau Cymraeg.

"Mae'n brifo fod 'na bobl yn deud "dwi wrth fy modd yn darllen ond dwi ddim yn darllen llyfrau Cymraeg". Sut allwch chi alw iaith yn iaith fyw os nad yw pobl yn gallu ei darllen hi?

"Mae'r llyfrau ar gyfer oedolion sy'n hawdd i'w ddarllen, y llyfrau lle 'dach chi methu mynd i gysgu achos 'dach chi eisiau gwybod beth sy'n digwydd nesa'... wel, does 'na'm lot o rheini nag oes?

"Yn Saesneg, mae'r llyfrau sy'n hawdd i'w ddarllen, y blockbusters, y rhai sy'n g'neud i chi droi'r dudalen, maen nhw'n gwerthu'n dda, a 'dach chi'n gallu g'neud bywoliaeth allan ohono fo.

"Tra yng Nghymru, dydi hynny ddim yn bod. Mae'n haws i chi sgwennu llyfrau 'dach chi mynd i gael grantiau amdanyn nhw, ac ennill gwobrau amdanyn nhw, achos gewch chi fwy o bres."

Yw hi'n amhosib bod yn awdur proffesiynol yng Nghymru?

"Mae rhai yn llwyddo… ond ma' rhaid i chi sgwennu rhywbeth fatha Pobol y Cwm neu sgwennu i deledu neu beth bynnag. Dwi dal i sgwennu i deledu, pethau plant a phethau felly, ond llyfrau yw fy nghariad cynta' i a, ella mod i ar fai, ond dwi'n caru llyfrau, a dwi isio sgwennu llyfrau!"

Ai Amdani oedd y llwyddiant mawr, o ran gwerthiant ac oherwydd ei bod hi wedi datblygu i gyfres deledu hefyd?

"Dyna beth sy'n ddiddorol. Yn y Saesneg ynde, os oes 'na gyfres deledu wedi dod o lyfr, mae gwerthiant y llyfr yn codi yn aruthrol… dio'm yn digwydd yn y Gymraeg. Nes i ofyn i'r Lolfa, faint o wahaniaeth wnaeth dangos 'Amdani' ar y teledu i werthiant y nofel... fawr ddim!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,
Llinos (Ffion Dafis) yn y fersiwn deledu o 'Amdani'

'Fallenad oedden nhw wedi arfer darllen yn Gymraeg?

"Mae 'na lot o hynny. Mae lot o fai ar y cwricwlwm. Os 'da chi yn set un Cymraeg, 'da chi'n tueddu i wneud yr un un nofelau fel 'Y Stafell Ddirgel'... O dwi'n mynd i bechu pobl rwan, ond mae hi wedi dyddio o ran iaith.

"Ac os 'da chi'n hogyn pymtheg oed sydd ddim yn arbennig o hoff o ddarllen beth bynnag, ar ôl darllen 'Y Stafell Ddirgel' yn y dosbarth 'da chi byth yn mynd i sbio ar lyfr Cymraeg eto. Mae'n ddrwg gen i, ond fel'na ma' hi. Mae 'na lyfrau eraill, ond ma' nhw ar gyfer setiau is."

'Da chi dal i gynhyrchu colofn i'r Herald, ac wedi gwneud ers blynyddoedd - ydi hi'n anodd meddwl am bwnc bob wythnos?

"Dwi'n siŵr bod hi'n bymtheg mlynedd o golofnau wythnosau bellach, sy'n dipyn o gamp, ond mae Angharad Tomos wedi bod yn gwneud yn llawer hirach!

"Ond mae hi'n anodd meddwl am bwnc - mae'n iawn os 'dach chi'n teithio tipyn, ond dwi'm 'di teithio ers sbel.

"Sgwennu colofn i'r Herald 'di'r unig waith pendant sydd gen i ers pymtheg mlynedd... ond mond y pres am y golofn, sy'n pathetic os ga i ddeud, 'sa chi'n chwerthin 'swn i'n deud faint 'da ni'n ei ga'l, dio ddim yn llawer.

Dwi'n mwynhau gwneud y golofn - cofiwch chi 'ma 'na lai a llai o bobl yn prynu papurau newydd rwan, maen nhw'n disgwyl pethau ar-lein am ddim... wel dwi ddim yn mynd i sgwennu am ddim 'de! Mae pawb isho byw!"

Ydych chi yn cytuno efo Bethan? Oes angen newid y llyfrau gosod yn yr ysgolion er mwyn ceisio annog disgyblion i ddarllen rhagor o lyfrau Cymraeg? Cysylltwch efo cymrufyw@bbc.co.uk neu drwy ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw.